Ganwyd 5 Ionawr 1843 yn Nhalysarn, mab yr enwog John Jones. Bu dan addysg yn Ysgol Frutanaidd y pentref, ysgol Clynnog 1860, Coleg y Bala 1861, Prifysgol Edinburgh 1865-9 (M.A. 1869). Daeth dan ddylanwad diwygiad 1859. Bu'n weinidog eglwys China Street, Llanidloes, 1870 (ordeiniwyd ef yn Amlwch, 1872), ac yn weinidog eglwys Saesneg Llandinam o 1875 i ddiwedd ei oes. Priododd, (1), Sophie Williams, Bootle, 1874 - bu iddynt ddau fab; (2), 1883, Annie, merch y Parch. Evan Jones, a bu pedwar mab o'r ail briodas. Bu'n llywydd cymdeithasfa'r Gogledd, 1899, y gymanfa gyffredinol, 1904, ac yn cynhadledd yr eglwysi Saesneg, 1904. Bu farw 15 Tachwedd 1905, a chladdwyd ym mynwent y plwyf, Llandinam.
Ysgrifennodd lawer i gylchgronau fel Cymru (O.M.E.) ar seryddiaeth, daeareg, hynafiaethau, a hanes. Yr oedd yn bregethwr dwys ac effeithiol ac yn ffigur amlwg yn y sasiynau am flynyddoedd; gwasnaethodd lawer yn eglwysi bychain siroedd Trefaldwyn, Brycheiniog, a Maesyfed, a pherchid ef ar gyfrif ei ddynoliaeth gyfoethog a'i ddoniau amlwg, drwy Gymru gyfan.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.