JONES, JOHN MATHER (1826 - 1874), Utica, U.D.A., perchennog Y Drych

Enw: John Mather Jones
Dyddiad geni: 1826
Dyddiad marw: 1874
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: perchennog Y Drych
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Nansi Ceridwen Jones

Ganwyd 9 Mehefin 1826 ym Mangor, Sir Gaernarfon. Ymfudodd i America yn 1849 gan gartrefu yn Utica, Efrog Newydd. Prynodd Y Drych, yn 1865, gan John William Jones a ddaeth yn olygydd y papur o hynny ymlaen, yn cael ei gynorthwyo gan Thomas B. Morris ('Gwyneddfardd'). Yn 1866 cyhoeddodd John Mather Jones lyfr Cymraeg ar hanes y Rhyfel Cartref a ysgrifenwyd gan ddau olygydd Y Drych ar ei gais ef. Ar ôl y Rhyfel Cartref sefydlodd dref Gymreig, New Cambria, ym Missouri, ac yn 1869, gyda James A. Whitaker, prynodd ddarn helaeth o dir yn Osage, Kansas, lle y sefydlodd dref arall, Arvonia. Yr oedd yn wrthwynebydd eiddgar i gaethwasiaeth ac yn weriniaethwr mewn gwleidyddiaeth. Bu farw 21 Rhagfyr 1874 yn Utica.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.