JONES, JOHN WILLIAM (1827 - 1884), golygydd Y Drych, newyddiadur y Cymry yn U.D.A.

Enw: John William Jones
Dyddiad geni: 1827
Dyddiad marw: 1884
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: golygydd Y Drych, newyddiadur y Cymry yn U.D.A.
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd 11 Ionawr 1827 yn Bryn Bychan, Llanaelhaearn, Sir Gaernarfon. Symudodd gyda'i rieni i Ty'n Llwyn, Llanllyfni, lle bu ei dad yn cadw ysgol. Yn 1845 ymfudodd i U.D.A. gyda mintai o deuluoedd o siroedd Caernarfon a Meirion. Bu yn Racine (Wisconsin) yn gweithio ar ffermydd, yn ymyl Chicago yn gweithio ar gamlas, ac yn Utica (N.Y.) yn gweithio fel saer dodrefn. Cafodd beth addysg yn ysgol Clinton a bu ei hunan yn cadw ysgol rifyddeg. Pan gychwynwyd Y Drych yn 1851 dechreuodd ysgrifennu iddo ac, yn niwedd 1852, ar gais J. M. Jones, perchen y papur, aeth i Efrog Newydd i'w olygu, gwaith y parhaodd gydag ef hyd tua chanol y flwyddyn 1884. Methiant fu'r Drych, fodd bynnag, hyd yn oed wedi uno'r Gwyliedydd ag ef yn 1855, hyd nes y daeth yn feddiant personol i John W. Jones yn 1858. Yn eisteddfod Calan Utica, 1858, enillodd wobr am draethawd ar ddrygedd caethiwed, ac am draethawd ar ddaeareg. Yr oedd yn llenor da, a chanddo wybodaeth gyffredinol eang; yr oedd ganddo hoffter neilltuol tuag at rifyddeg, seryddiaeth, a daeareg. Cyhoeddodd lyfrau: Rhifyddeg, Darllen ac Ysgrifennu, Cyfaill y Gweithiwr, Hanes Rhyfel America, Hanes Rhyfel Crimea, etc. Bu hefyd yn golygu Yr Adolygydd Chwarterol (N.Y.) yn 1852. Ymwelai â Chymru yn fynych. Bu farw 8 Hydref 1884 a chladdwyd ef yng nghladdfa Forest Hill, Utica.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.