Ganwyd yn Abermaw 24 Medi 1858, ail fab John Jones, rheithor Llanaber ac Abermaw, ac Adelaide ei wraig. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Dolgellau ac Ysgol Friars, Bangor, dan D. L. Lloyd. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Merton, Rhydychen; cafodd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn yr arholiad cyntaf yn y clasuron yn 1878, a graddio yn 1880. Bu'n athro am beth amser yn Trowbridge, ac urddwyd ef yn ddiacon gan esgob Ely yn 1885 ac yn offeiriad yn 1886. Ar ôl bod yn gurad yn Lloegr am bedair blynedd, aeth i Goleg Crist, Aberhonddu, yn athro yn 1889, ac yn 1891 penodwyd ef yn ficer Llanidloes gan ei hen brifathro, a oedd bellach yn esgob Bangor. Bu yno hyd 1923, a bu hefyd yn ddeon gwlad Arwystli ac yn ganon trigiannol ym Mangor. Yn 1923 aeth yn rheithor i Rushton, ger Kettering, a bu farw yno 11 Mawrth 1931.
Priododd yn 1886 Ada Howells, a bu iddynt dri mab (collwyd dau yn rhyfel 1914-8) ac un ferch. Yn 1896 cyhoeddodd Welsh Lyrics of the Nineteenth Century, ac yn 1906 Welsh Poets of Today and Yesterday (cyfieithiadau o'r Gymraeg).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/