JONES, PERCY (1891 - 1922), paffiwr

Enw: Percy Jones
Dyddiad geni: 1891
Dyddiad marw: 1922
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: paffiwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd 24 Rhagfyr 1891, yn Nhreherbert, Rhondda. Yr oedd yn gyfoes â Jimmy Wilde, a bu o dan ofal James Driscoll. Daeth Jones yn ben paffiwr Prydain a'r byd ar 26 Ionawr 1914, pan gurodd Bill Ladbury am y ' Lonsdale Belt.' Aeth yn ei flaen i sicrhau ei deitl trwy guro Eugene Crique, pencampwr Ffrainc ac Ewrop. Gweithiai Jones yn y lofa yn Nhreherbert a'r Porth, ac yn ddiweddarach bu yn darawr ym mhwll Lady Windsor yn Ynyshir. Yn ystod rhyfel 1914-8, gwasnaethodd gyda'r ' Welsh Bantams,' a chafodd ei glwyfo'n ddrwg pan yn y ffosydd yn Ffrainc. Mewn canlyniad i'r clwyfau a gafodd, gwenwynwyd ei waed, a gorfu iddo adael y Fyddin. Yr oedd yn awr yn gwbl fethedig, ac ar ôl bod o dan driniaeth lawfeddygol am dros ddwy flynedd, bu farw 25 Rhagfyr 1922.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.