Ganwyd 12 Mai 1892 ym Mynwent y Crynwyr, Merthyr Tudful, yn fab i James a Margaret Wilde. Pan oedd yn bedair oed symudodd y teulu i 8, Station Road, Pont-y-gwaith, Tylorstown, Rhondda. Yn ifanc iawn amlygai gryn wydnwch wrth ei amddiffyn ei hun mewn ymrysonau pen-stryd, a phan aeth i'r pwll glo lleol cydweithiai â Dai Davies, hen ymladdwr bol mynydd, a ddysgodd lawer iddo am focsio a'i wahodd i'w gartref i ymarfer ar y llofft.
Pan chwalodd y teulu, cafodd lety yn nhŷ Dai Davies, ac yn ddiweddarach priododd Lisbeth, merch y llety. Crwtyn eiddil ac ysgafn ydoedd, ond hynny neu beidio, ennill ei fywoliaeth wrth focsio oedd ei uchelgais. Yn bymtheg oed, cafodd ddamwain yn y gwaith, a bu ar ei gefn am flwyddyn a rhagor yn disgwyl i'w goes wella.
Gan Jack Scarrott, perchennog y bwth bocsio, y cafodd ei gyfle cyntaf er i hwnnw hefyd fynegi amheuaeth ynglŷn â dyfodol pwtyn 5′ 2½″ na phwysai gymaint â 6 stôn y pryd hwnnw. Ar hyd ei yrfa anhygoel o 864 o ornestau (y ffigur a ddyfynnir amlaf), 7 stôn 10 pwys fu ei bwysau trymaf. Yn 1911, gadawodd y pwll i ganolbwyntio ar yrfa yn y sgwâr proffesiynol ar ôl perswadio Ted Lewis i weithredu fel ei reolwr. Yn Nhachwedd 1914, enillodd bencampwriaeth pwysau pry Prydain drwy guro Joe Symonds. Yn Ionawr 1915 collodd ei deitl i Tancy Lee yn y 17eg rownd. Honno oedd yr ornest gyntaf a gollodd, ond ymhen blwyddyn, yr oedd wedi curo Joe Symonds i gipio'r teitl drachefn, ac yn Ionawr 1916, talodd y pwyth yn ôl i Tancy Lee yn y 11eg rownd. Yr oedd y grym a gariai un mor ysgafn yn ei ddau ddwrn yn rhyfeddu'r arbenigwyr. Bocsio da yn hytrach nag unrhyw rym cyfrin, ynghyd ag amseru perffaith a digonedd o hunan-hyder, oedd esboniad arferol Wilde. Ddiwedd 1916, ac yntau erbyn hynny'n swyddog ymarfer corff yn y fyddin, trechodd Young Zulu Kid o T.U.A. yn yr 11eg rownd i ennill pencampwriaeth pwysau pry'r byd. Yr oedd y 'Mighty Atom', y 'Tylorstown Terror', yr 'Indian Famine' a'r 'Ghost with a hammer' wedi cyrraedd y brig. A'r rhyfel trosodd, trefnwyd gornestau tair rownd rhwng milwyr Prydain ac America. Yr ail noson, curwyd ef gan Pal Moore. Ar sail y dadlau a gafwyd wedi hynny, trefnwyd ail gyfarfod pan enillodd dros yr 20 rownd. Yn Ionawr 1920, aeth ar daith focsio i T.U.A. a threchu pob un o'i wrthwynebwyr heb fawr o drafferth. Yn Ionawr 1921, fe'i trechwyd yn y 17eg rownd gan Pete Herman o T.U.A. Y gobaith oedd y byddai'n ymddeol mewn pryd ond, am £15,000, penderfynodd fynd i Efrog Newydd i amddiffyn ei deitl yn erbyn Pancho Villa ym Mehefin 1923. Ni fuasai ar gyfyl y sgwâr ers hydoedd, ac fe'i trechwyd gan Villa yn y seithfed rownd. Ar ôl ymddeol, bu o bryd i'w gilydd yn gysylltiedig â sawl menter aflwyddiannus. Ysgrifennodd ei hunangofiant Fighting was my business yn 1938, a bu am gyfnod yn ohebydd bocsio'r News of the World.
Bu'n glaf am y pedair blynedd olaf o'i oes, pan gollodd ei wraig, ac yn ysbyty'r Eglwys Newydd, Caerdydd, yn 76 mlwydd oed, bu farw ar 11 Mawrth 1969.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.