SCARROTT, JOHN ('JACK') (1870 - 1947), hyrwyddwr paffio

Enw: John Scarrott
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1947
Priod: Priscilla Scarrott (née Loveridge)
Rhiant: Fiance (née Smith)
Rhiant: Levi Scarrott
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hyrwyddwr paffio
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Lawrence Davies

Ganwyd Jack Scarrott yn Stryd Fothergill, Casnewydd, ar 28 Mawrth 1870. Ef oedd mab hynaf Levi Scarrott, basgedwr, a'i wraig Fiance (ganwyd Smith). Ar ôl cyfnod byr fel paffiwr bwth, priododd Scarrott â Priscilla Loveridge o Gaerdydd ar 15 Rhagfyr 1890 yn Eglwys y Santes Catrin ym Mhontypridd, ac wedyn cychwynnodd ei fwth paffio ei hun a adeiladodd ym Maes y Felin, Pontypridd. Teithiodd 'Pafiliwn' Scarrott trwy gydol De Cymru, gan gyflwyno i ddechrau baffwyr anadnabyddus a rhai a oedd yn enwog fel ymladdwyr mynydd â dyrnau noeth fel Shoni Engineer (John Jones o Dreorci). Erbyn i'r bwth ennill ei blwy, cynhwysai cwmni Scarrott baffwyr blaenllaw fel Jim Driscoll o Gaerdydd (Pencampwr Pwysau Plu Prydain), Tom Thomas o Benygraig (Pencampwr Pwysau Canol Prydain), Johnny Basham o Gasnewydd (Pencampwr Pwysau Welter Prydain ac Ewrop), a Percy Jones o'r Porth (Pencampwr Pwysau Pryf y Byd). Cofir Jack Scarrott yn bennaf am iddo roi'r cyfle cyntaf i Jimmy Wilde (Pencampwr Pwysau Pryf y Byd) pan oedd Wilde tua 16 oed.

Erbyn 1907, roedd Pafiliwn Jack Scarrott yn un o'r bythau paffio ffair teithiol mwyaf adnabyddus yng Nghymru. Yn 1912, pan oedd y pafiliwn wedi ei leoli yn Nhonypandy, daeth mor boblogaidd fel y bu i Scarrott gymryd les ar Hippodrome Tonypandy er mwyn cynnwys torfeydd o dros 2,000 o bobl, ac erbyn diwedd y flwyddyn roedd rhaid ehangu ymhellach i gynnwys 1,000 yn rhagor. Gwerthodd Scarrott ei ran yn y feniw ym Mawrth 1913, a phrynodd fwth paffio teithiol newydd. Yn Ionawr 1914, dychwelodd Scarrott i Donypandy gan lesio'r 'Pavilion Rink', gyferbyn â'r Hippodrome, a allai ddal torf o hyd at 4,000. Denodd gornest rhwng Young (George) Dando o Ferthyr a Charlie Yeomans o Bontypridd dorf a amcangyfrifwyd yn 3,000 o wylwyr. Wedi iddo sefydlu ail leoliad mawr parhaol ar gyfer paffio, gwerthodd Scarrott ei ran yn y Pavilion Rink a daliodd ati i hyrwyddo gornestau yn y Neuadd Ymarfer ym Merthyr am gyfnod byr cyn cychwyn ar daith eto. Tua diwedd 1916, cymerodd Scarrott reolaeth o'r Pafiliwn Cylch Sglefrio ym Margoed, lle ceid ceffylau bach, bythau saethu a difyrion ffair eraill, yn ogystal â phaffio ac arddangosfeydd cleddyfa. Cynhaliwyd digwyddiad budd bob wythnos, a rhoddai Scarrott yr arian a gasglwyd i ysbytai milwrol i gynorthwyo milwyr clwyfedig. Rhoddodd Scarrott y gorau i hyrwyddo yng Nghylch Sglefrio Bargoed ar ôl Mai 1918, gan ddychwelyd at ei fwth paffio teithiol. Cymerodd les wedyn ar Bafiliwn enwog Aberpennar am chwe mis yn Nachwedd 1918. Er iddo barhau i gynnal gornestau paffio achlysurol hyd y 1930au, wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf trodd ei sylw fwyfwy at atyniadau ffair.

Bu farw Jack Scarrott ar faes Ffair Caldicot ar 6 Hydref 1947 yn 77 oed. Fe'i claddwyd ym mynwent Glyntaf ger Pontypridd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2020-06-01

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.