Ganwyd yn Tŷ Du, Llwyngwril, 1780. Magwyd ef gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ond gwrthgiliodd y teulu oherwydd anghytuno ohonynt â disgyblu brawd iddo. Yn y cyfwng hwn gwahoddodd Richard Jones y Parch. Hugh Pugh, Brithdir, yno i bregethu, a bu hynny yn achlysur i gychwyn yr achos Annibynnol yn Llwyngwril. Ni chafodd Richard Jones ddim addysg ond llwyddodd i ddysgu darllen Cymraeg, eithr yn ddigon carbwl. Pryderai ei rieni ynglŷn â dewis galwedigaeth iddo gan mor anghelfydd a di-afael ydoedd gyda phopeth. Rhoed ef i ddysgu crefft crydd gyda'i frawd, ond trychineb a fu hynny hefyd. Mynnai ymddiddori mewn pynciau ysgrythyrol ac athrawiaethol, ac yn ei ffordd ei hun daeth yn gydnabyddus â phrif awduron y dydd.
Tua 1817 dechreuodd bregethu ac ymroes yn gyfan gwbl i'r gwaith weddill ei oes. Ni bu erioed â gofal eglwys, a chan nad oedd iddo ofalon teuluaidd, teithiai Gymru benbaladr i bregethu. Yr oedd deilen ar ei dafod, a chyda rhyw hynodrwydd personol a berthynai iddo daeth yn adnabyddus iawn led-led y wlad. Pregethwr doniol a chanddo ffordd wreiddiol o egluro'r Ysgrythur ydoedd, ac, yn bennaf dim, gŵr dihoced a chroeso calon iddo ar aelwydydd y wlad. Bu farw 18 Chwefror 1853, yn Llwyngwril, ac yno y claddwyd ef.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.