Ganwyd 22 Tachwedd 1779 yn Tynant Bach, Brithdir. Magwyd ef mewn gwell amgylchiadau na'r cyffredin. Nid oedd ei dad yn grefyddwr ond 'roedd ei fam yn aelod yn Rhydymain, ac y mae'n bosibl y cyrchai mor bell â Llanuwchllyn i gymundeb. Symudodd y teulu i'r Perthi Llwydion. Addysgwyd ef yn Nolgellau a High Ercall, Sir Amwythig. Yn 16 oed derbyniwyd ef yn aelod yn y Brithdir gan Dr. George Lewis a dechreuodd bregethu ymhen dwy flynedd. Yn 20 oed aeth i athrofa Wrecsam ac arhosodd yno flwyddyn. Daeth adref i gymryd gofal eglwysi y Brithdir a Rhydymain ac urddwyd ef yn y Brithdir, Hydref 1802. Ehangodd ei faes a dechreuodd bregethu yn Nolgellau a phrynodd hen gapel y Methodistiaid yno at wasanaeth ei enwad. Sefydlodd achos yn Llanelltyd ac âi i'r Ganllwyd a'r Cutiau, Abermaw, Dyffryn, Llwyngwril, Llanegryn, a Thywyn. Ef oedd gweinidog sefydlog cyntaf yr Annibynwyr yn yr ardaloedd o gylch Dolgellau. Cyfrifid ef ymhell uwchlaw ei gyfoeswyr mewn deall a dawn y weinidogaeth. Bu farw 28 Hydref 1809 a chladdwyd ef ym mynwent Dolgellau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.