Ganwyd 5 Gorffennaf 1862 yn Tyddynbach, Arthog, Meirionnydd, mab Meredith a Jane Jones. Ei enw bedydd ym Meibl y teulu ydoedd Robert Jones, ond pan aeth i'r Academi Gerddorol ychwanegwyd Wilfrid at ei enw, ac ar yr enw hwn yr adwaenid ef tra bu byw. Yn ieuanc ymunodd â'r seindorf, a dysgwyd ef i chwarae'r cornet gan Tedwell, arweinydd enwog. Anfonwyd ef at John Owen ('Owain Alaw') i Gaerlleon am gwrs o addysg, a bu yno hyd farwolaeth yr athro yn 1883. Wedi hynny, cafodd gwrs ychwanegol gan J. H. Roberts ('Pencerdd Gwynedd') ac aeth i'r Academi Gerddorol Frenhinol, Llundain, a chafodd yrfa lwyddiannus yno. Wedi gadael yr academi, ymsefydlodd yn Llundain fel datganwr (bariton), a phenodwyd ef yn athro llais yn y Richmond School of Arts. Yn 1893 daeth i Wrecsam, ac ymsefydlodd yn athro cerdd, gan wneuthur disgyblu'r llais yn rhan arbennig; disgyblodd nifer o gantorion a ddaeth yn enwog. Bu'n dysgu canu yn ysgolion canolradd Wrecsam, Rhiwabon, Overton, a Llangollen, ac yn arweinydd Côr Philharmonic Wrecsam. Enillodd y wobr gyda Côr Meibion Rhos yn eisteddfod genedlaethol Blaenau Ffestiniog, 1898, a dyfarnwyd iddo y fedal aur fel yr arweinydd gorau. Bu'n arweinydd y canu yn y Capel Mawr, Rhos, am gyfnod, ac arweiniodd lawer o gymanfaoedd canu, a beirniadu mewn eisteddfodau. Yr oedd yn un o olygyddion Llyfr Tonau ac Emynau y Methodistiaid Wesleaidd, 1904, a Llyfr Tonau ac Emynau y Methodistiaid Wesleaidd a Chalfinaidd, 1929. Bu farw 3 Chwefror 1929, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Wrecsam.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.