Ganwyd 3 Mehefin 1894 yn ' Ebenezer ' (Deiniolen), Sir Gaernarfon, mab Robert Hugh Jones ac Ellen ei wraig, y naill yn disgyn o hen deulu Bodnithoedd, a'r llall o deulu John Elias a ' Ieuan o Leyn.' Yn dair oed, aeth i ysgol y bechgyn, Clwtybont, a pharhau yno hyd yn 13 oed. Yna, i'r chwarel, i'r un alwedigaeth â'i dad - cael addysg y chwarel ar awr ginio, darllen llyfrau lawer, lloffa'n drwyadl drwy'r Geninen, Cymru (O.M.E.), a'r Welsh Outlook yn gyfryngau ei ddiwyllio o hynny ymlaen. Ymhoffai yn hanes y gwledydd bychain, yn enwedig Iwerddon. Ymroddodd yn eiddgar i holl waith eglwys yr Annibynwyr, a sefydlodd y gangen gyntaf o Urdd Gobaith Cymru yn y pentref. Oherwydd nad oedd gryf ei iechyd, gadawodd y chwarel yn ystod rhyfel 1914-8, a myned i Lerpwl at gwmni ' Morris & Jones.' Wedi ysbaid, dychwelodd adre i fod yn ysgrifennydd Cymdeithas Gydweithredol' y pentref, nes ei benodi'n glerc yn y brif swyddfa ym Manceinion. Daeth adre'n ôl eilwaith, a chodi allan fel trafaeliwr i gwmni o Lerpwl. Crwydro a wnaeth byth er hynny hyd at ddiwedd ei oes i ledu ac i hau y syniadau a oedd wedi ennill ei holl anian. Ym mis Medi 1921 ffurfiodd ' Byddin Ymreolaeth,' a ddatblygodd yn Nhachwedd 1924 i ddyfod yn ' Blaid Genedlaethol Cymru '; efe oedd y trefnydd cyntaf (1926-30). Ef hefyd oedd cychwynydd a sylfaenydd Y Ddraig Goch. Bu farw 17 Mehefin 1930.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.