JONES, THOMAS (1720? - 1790), clerigwr ac awdur

Enw: Thomas Jones
Dyddiad geni: 1720?
Dyddiad marw: 1790
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Elwyn Evans

Ychydig a wyddys am ei fywyd. Penodwyd ef yn ficer Pennant, Sir Drefaldwyn, yn 1757. Bu'n rheithor Llangynog, 1762-82, ac yn rheithor Hirnant, 1782-90. Yn 1763 cyhoeddwyd ei Rheol o Addoliad ac Ymarfer Duwioldeb i'r Hwsmon - sef cyfieithiad o ddarlithiau yr archesgob Thomas Secker, Rule of Worship and Practice of Piety for the Husbandman. Cyhoeddodd hefyd gyfieithiad o waith arall gan Secker sef Traethiadau ar Gatecism Eglwys Loegr: gyda phregeth ar Gonffirmasiwn, 1778. Y gwaith olaf a gyhoeddodd oedd Pregeth ar Salm CXIX, 165, yn 1779. Yn ôl cofrestr plwyf Hirnant fe gyfieithodd yn 1784 Drych y Prif Oesoedd gan Theophilus Evans, ond nid ymddengys iddo gyhoeddi'r cyfieithiad. Bu farw yn 1790 a'i gladdu ym Mhennant 17 Gorffennaf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.