Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Llanfaethlu, sir Fôn. Bu'n byw yn Tynllan ac yn Newhavren, Llantrisant, sir Fôn, cyn dyfod yn glerc plwyf Llanfaethlu. Haedda ei goffáu yn rhinwedd y casgliad helaeth o lawysgrifau cerddoriaeth a ysgrifennodd ef â'i law ei hun neu a gynhullodd, casgliad o dros ddeugain o gyfrolau a roddwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1919 gan yr archdeacon Albert Owen Evans. Er mai mewn caniadaeth eglwysig a chynulleidfaol yr ymddiddorai Thomas Jones fwyaf, ceir yn y casgliad hwn (NLW MS 8112-52 ) enghreifftiau o gerddoriaeth arall hefyd, gan gynnwys caneuon gwerin, rhanganau, caneuon. Y mae o werth am fod ynddo esiamplau o waith cynifer o gerddorion hysbys a llai hysbys, llawer ohonynt yn gyfoeswyr â Thomas Jones. Bu farw 25 Mawrth 1898.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.