JONES, THOMAS (1848 - 1900), llawfeddyg

Enw: Thomas Jones
Dyddiad geni: 1848
Dyddiad marw: 1900
Rhiant: David Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llawfeddyg
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn y Derlwyn yn Sir Gaerfyrddin, yn fab i David Jones, a gadwai ysgol yno. O'r Coleg Normal yn Abertawe, aeth i'r Northern Hospital yn Lerpwl; graddiodd yn F.R.C.S. Dechreuodd ei yrfa fel llaw-feddyg ym Manceinion yn 1873, a daeth yn fuan iawn yn arbenigwr ymgynghorol yn ei faes. Yn 1880, penodwyd ef yn ddarlithydd mewn llawfeddygiaeth yn Owen's College, ac yn 1890 yn athro.

Pan dorrodd y rhyfel yn Ne Affrica, a sefydlu ysbyty Cymreig yno (gweler dan Hughes, A. W.), perswadiwyd ef i fod yn brif lawfeddyg iddi. Bu farw yn Ne Affrica 18 Mehefin 1900.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.