Brodor o Feirionnydd, yn ôl pob tebyg. Cafodd ei osod yn 1647 gan Bwyllgor y Gweinidogion Llwm ym mhrif dref Dyffryn Clwyd a dyfarnu iddo ganpunt y flwyddyn o gyflog allan o adnoddau'r rheithoraeth; ef hefyd oedd caplan milwyr y Senedd yn y dref; yn 1650 enwyd ef yn un o'r profwyr o dan Ddeddf y Taeniad. Yn y blynyddoedd 1654-6 yr oedd ei fuddion o'r plwyf mewn cryn berygl oherwydd osgo wrthwynebus yr eglwyswr mawr a ffarmiai'r degymau, ond yn 1657 gwelodd yr awdurdodau Piwritanaidd yn dda ychwanegu £40 y flwyddyn at ei gyflog. Nid oedd fawr obaith iddo yn nyddiau 'r Adferiad gael yr arian gwreiddiol na'r ychwanegiad, ond ni chafodd ei droi allan o'i le hyd Awst 1661, a hynny o dan Ddeddf mis Medi 1660, ac nid o dan Ddeddf Unffurfiaeth 1662. Gorfu arno, yn ôl gofynion Deddf y Pum Milltir, ymadael â thref Dinbych, a chafodd noddfa yn y Plas Teg yn Sir y Fflint, cartref teulu Trevor (yr oedd y tad wedi bod yn gomisiynydd o dan Ddeddf y Taeniad, a'r mab yn brysur iawn yn cryfhau dwylo Siarl II gydag ' Indulgence ' 1672). Dywedir i'r teulu roddi tir i William Jones i fyw arno gwerth £20 y flwyddyn; ac o gwmpas Plas Teg yr ydoedd pan ddaeth trwydded iddo i bregethu yn 1672, dyddiedig 28 Hydref.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach daeth yn un o gynorthwywyr Thomas Gouge; ei waith ef oedd cyfieithu i'r Gymraeg lyfrau crefyddol; fel y digwyddodd, Gouge ei hun oedd awdur gwreiddiol y ddau a droswyd gan William Jones, y ddau yn ymddangos yn 1676 - Gair i Bechaduriaid a Gair i'r Sainct (un llyfr) a Principlau neu Bennau y Grefydd Ghristianogol.
Ymddengys iddo symud o Blas Teg i Estyn (Hope), lle y bu farw yn Chwefror 1679. ' A conforming minister of Abergeley ' a bregethodd yn ei angladd, a hwnnw hefyd oedd awdur yr ysgrif Ladin a gerfiwyd ar ei garreg fedd (enw'r offeiriad oedd Dr. David Maurice, gŵr genedigol o Abergele, ond a weithredai fel ficer Llanasa ym mlynyddoedd olaf William Jones). Yr oedd y 'conforming minister' a William Jones wedi priodi dwy chwaer.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.