MAURICE, DAVID (1626 - 1702), clerigwr a chyfieithydd

Enw: David Maurice
Dyddiad geni: 1626
Dyddiad marw: 1702
Rhiant: Andrew Maurice
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a chyfieithydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: John James Jones

mab Andrew Maurice, deon Llanelwy. Yn ôl Browne Willis, bonheddwr o Sir Amwythig oedd Andrew Maurice, ond yn ôl Wood (Athen. Oxon.), o sir Ddinbych. Dywed ' Llyfr Silin ' a Walter Davies ('Gwallter Mechain') ei fod yn yr wythfed ach o Ieuan Gethin. Dywed Philip Yorke (Royal Tribes) ei fod yn perthyn i gangen ddiweddar o deulu Clenennau. Ond yn ôl D. R. Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph, pais arfau Cunedda Wledig oedd gan ei fab David Maurice, ac nid eiddo Owen Gwynedd nac eiddo Einion Efell. Ymaelododd David Maurice yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 3 Mehefin 1651, a graddio'n B.A. 1654/5, ac M.A. 1657, o'r Coleg Newydd. Daliodd y swyddi eglwysig canlynol: ficer Llangernyw, 1662; rheithor Cegidog S. George, sir Ddinbych, 1663; cylch-brebend yn Llanelwy, 1664; canon, 1666; ficer Llanasaph, Sir y Fflint, 1666; rheithor Gwytherin, 1675; ficer Abergele, 1684, Betws-yn-Rhos, 1684, a Llanarmon-yn-Iâl, 1696. Daliai y tair swydd olaf pan fu farw, 1702. Claddwyd ef ym mynwent Betws-yn-Rhos, ac y mae beddargraff Lladin ar ei feddadail. Cyhoeddwyd ei achwyniad mewn perthynas â'r ' Popish Plot ' yn The Information of J. Sergeant and D. Morris relating to the Popish Plot, 1681. Cyhoeddodd hefyd The Promised Reed; a sermon preach'd … for the support of weak Christians, 1700, a chyfieithiadau Cymraeg o ddau o weithiau Theophilus Dorrington o dan y teitlau, Arweiniwr cartrefol i'r iawn a'r buddiol dderbyniad o Swper yr Arglwydd, … 1700, a Cynffwrdd i'r gwan Gristion, neu'r gorsen ysig, 1702.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.