O Faglan yn Sir Forgannwg, ac un o ddisgynyddion llwyth Caradog ab Iestyn ap Gwrgant; yn ôl rhai arwyddfeirdd, e.e. Gruffudd Hiraethog yn Peniarth MS 178 , i (43), priododd â merch Tomas ab Ifor Hael. Croesewid beirdd y Gogledd a Deheubarth i'w lys ym Maglan, a chafwyd mewn llawysgrifau ddau gywydd iddo gan feirdd ei gyfnod, sef un gan Ieuan Ddu ap Dafydd ab Owain, a marwnad gan Iorwerth Fynglwyd. Cadwyd llawer o'i farddoniaeth, ac yn ei phlith gywydd i Owain Tudur o Benmynydd, a gyfansoddwyd pan garcharwyd ef yn Newgate, cywydd marwnad i blant y bardd sydd hefyd yn ddychan i'r nodau a'u lladdodd, cywydd i'w fab, ac awdl farwnad i un o'i ferched. Ymddengys mai ffug yw hanes 'Iolo Morganwg' am Ieuan, sef amdano'n ymladd o blaid Owain Glyndwr ym Morgannwg, yn gorfod ffoi i Fôn, a chael dychwelyd ymhen amser wedi talu ohono ddirwy.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.