JONES, WILLIAM (1764 - 1822), emynydd

Enw: William Jones
Dyddiad geni: 1764
Dyddiad marw: 1822
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

brodor o Gynwyd. Aeth i'r Bala 'n ifanc, ac yr oedd yn wehydd mewn ffatri a berthynai i Simon Lloyd; yr oedd yn flaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cyhoeddodd yn 1819 Aberth Moliant, neu Ychydig Hymnau; ymddengys un neu fwy o'r emynau hyn yn y rhan fwyaf o'n hemyniaduron, a William Jones piau'r pennill enwog iawn sy'n dechrau, ' Yr Iawn a dalwyd ar y groes.' Bu farw 2 Mai 1822, yn 58 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.