Aelod seneddol dros ranbarth Arfon (1895-1915). Ganwyd yn 1857 yn y Ceint Bach ger Llangefni; enwau ei rieni oedd Richard ac Alice Jones. Disgybl, ac wedyn disgybl-athro, yn y ' British School ' yno; yn y Coleg Normal, Bangor, 1873-5, yr un pryd â'r Dr. J. Lloyd Williams. Am dymor, prifathro ysgol Goginan yng ngogledd Ceredigion; o 1879 hyd 1888 is-athro yn ysgol Wallington Road yng ngogledd Llundain. Yr oedd yn aelod yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Holloway, ond yn 1887 cafodd ei ddiarddel am swcro golygiadau rhy fodern ar y Beibl (yn yr ysgol Sul). O 1888 i 1894 Rhydychen oedd ei gartref, a gweithredai yno (yn ôl pob tebyg) fel athro answyddogol i rai o fyfyrwyr y brifysgol. Yn ystod ei fyw yn Llundain ymddiddorai mewn politics, fel Rhyddfrydwr, a daeth yn un o'r siaradwyr mwyaf huawdl, yn Gymraeg a Saesneg, drwy'r holl wlad. Ni ddewiswyd ef yn ymgeisydd Rhyddfrydol dros sir Fôn, er bod iddo bleidwyr hyderus; yn 1894 dewiswyd ef, gyda mwyafrif mawr, yn ymgeisydd dros Arfon; yn etholiad cyffredinol 1895 aeth i'r Senedd gyda rhwyddineb. Daeth yn fuan yn un o siaradwyr mwyaf parod Tŷr Cyffredin, a thraddododd areithiau effeithiol ar yr anghydfod poenus yn chwarel Bethesda (1900-3), ac ar gwestiwn mawr y Datgysylltiad (yn 1912 a 1914 yn enwedig). Yn y wlad, ei gyfraniad mwyaf sylweddol oedd ei areithiau yng nghwrs dwy lecsiwn fawr 1910. Y flwyddyn nesaf wele ef yn un o'r 'Junior Lords of the Treasury,' un o'r 'Whips' mewn gwirionedd i ofalu am fuddiannau Cymru a chadw golwg ar yr aelodau Cymreig. Cedwir 21 gyfrol o'i bapurau personol yn llyfrgell Coleg y Gogledd. O ddarllen y cyfrolau hyn, gwelir pa mor brysur yw bywyd aelod seneddol, pa mor eang oedd cylch cyfeillion William Jones, pa mor ddwfn ei gydymdeimlad â delfrydau uchel, a pha mor bell y llwyddodd i ddwyn y delfrydau hynny o fewn cyrraedd y bywyd cyffredin. Yr oedd William Jones yn bersonoliaeth gu, garuaidd, lawn caredigrwydd a natur dda, ac yn wleidyddwr gyda'r mwyaf unplyg yn ei oes. Bu farw ym Mhendyffryn, Bangor, 9 Mai 1915.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.