Fe wnaethoch chi chwilio am *
Nid oedd yn perthyn i unrhyw gangen o deulu adnabyddus y Cyffiniaid. Y mae'n bur debyg mai ef oedd Richard ap John neu Ris ab Ieuan ap Ris ap Gruffydd, rheithor Gyffin yn esgobaeth Bangor, 'mab rhieni dibriod,' a gafodd yn 1470 drwydded gan y pab (gan ei fod wedi ei eni'n anghyfreithlon) i gael urddau eglwysig. Yr oedd yn ŵr gradd yn y gyfraith ganon. Pan oedd yn ddeon ymddengys ei fod yn gefnogwr gweithgar i Harri Tudur yn ystod y blynyddoedd cyn brwydr Bosworth. Ailadeiladwyd côr yr eglwys gadeiriol yn ystod ei dymor fel deon, a chyflwynwyd un o'r ffenestri (sy'n cynnwys lluniau y santesau Dwynwen a Chatrin) ganddo. Daliai reithoraeth Llanddwynwen. Sylfaenodd siantri S. Catrin yn yr eglwys gadeiriol ac fe'i claddwyd ef yn ei hymyl yn yr asgell groes ddeheuol. Y mae arysgrif mewn efydd yn dangos ei feddrod, a elwid hyd y 18fed ganrif yn fedd y Deon Du.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.