Yr oeddent yn disgyn o Ilbert, a oedd yn gydymaith i Wiliam y Concwerwr ac yn gâr agos i Walter de Lacy (bu farw 1085), o Ewias. Daeth y teulu yn bobl o bwys mewn materion Cymreig yn oes ROGER (bu farw 1212). Gelwid ef yn Roger o Uffern ('of Hell') oherwydd ffyrnigrwydd ei gyrchoedd ar Gymru; dywedir iddo ar un amgylchiad achub Ranulf, iarll Caer o gastell Rhuddlan pan warchaeid ar yr iarll gan y Cymry. Daeth ei fab JOHN (bu farw 1240) yn iarll Lincoln 1af o deulu De Lacy trwy briodas. Ychwanegodd HENRY, ŵyr hwnnw, sef y 3ydd iarll Lincoln, iarllaeth Salisbury at deitlau'r teulu trwy ei briodas gyntaf â Margaret Longespée.
Yr Henry de Lacy hwn, 3ydd iarll Lincoln (bu farw 1311), oedd yr aelod mwyaf pwerus a dylanwadol o'r teulu - mewn materion ynglŷn â Lloegr a materion Cymreig. Yr oedd yn un o gynghorwyr mwyaf agos Edward I. Chwaraeodd ran flaenllaw yng nghyrchoedd Cymreig y brenin yn 1277, 1282, a 1294; yn 1282 rhoddodd y brenin Ros, Rhufoniog, a Dinmael iddo - y tiroedd hyn o hyn ymlaen yn ffurfio arglwyddiaeth Mars Dinbych. Efe a sefydlodd fwrdeisdref Dinbych gyda'i gwarchodlu ac a fu'n gyfrifol am adeiladu'r castell a muriau'r dref. Boddwyd EDMUND, un o'i feibion, mewn ffynnon y tu mewn i Dŵr Coch y castell. Gan i'w fab arall, JOHN, farw o flaen ei dad, dilynwyd Henry de Lacy gan ei ferch, ALICE, gwraig Thomas, iarll Lancaster, serch pennu gwaddol i'w ail wraig, Cymraes o'r enw Joan, chwaer William (Martin), 6ed barwn Cemais, Dyfed. Bu a fynnai Alice â chwymp ei gŵr, ac wedi iddo gael ei ddienyddio, ym mis Mawrth 1322, traddododd hi i'r brenin ei holl hawliau i diroedd yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.