LEATHART, WILLIAM DAVIES (bu farw wedi 1840), hanesydd Cymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain

Enw: William Davies Leathart
Dyddiad marw: wedi 1840
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd Cymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: William Llewelyn Davies

Wyr (o ochr ei fam) i William Davies, 'of the Denbighshire part of Bodffari,' a wnaethpwyd yn aelod anrhydeddus o'r Gwyneddigion yn 1790. Ymunodd â'r gymdeithas yn 1822 a daeth yn aelod gweithgar a brwdfrydig, gan ddyfod yn llyfrgellydd yn 1826 ac yn ysgrifennydd yn 1828.

Casglodd hanes y gymdeithas a chyhoeddwyd ef gan Hugh Pierce Hughes, Llundain, 1831, o dan y teitl The Origin and Progress of the Gwyneddigion Society of London. Instituted M.DCC.LXX. Y mae hwn yn waith diddorol a defnyddiol, yn rhoddi hanes y gymdeithas, ac ar yr un pryd yn gyfraniad i hanes bywyd Cymreig Llundain yn ystod diwedd y 18fed ganrif a thri degau cyntaf y ganrif ganlynol; ceir ynddo hefyd fanylion am yr eisteddfodau a gynhelid yng Nghymru, etc., o dan nawdd y Gwyneddigion. Cyhoeddasai Leathart eisoes, yn 1825, lyfryn bychan, Welsh Pennillion, with Translations into English. Adapted for Singing to the Harp. Y mae yn NLW MS 1806E bum llythyr a anfonodd Leathart at Walter Davies ('Gwallter Mechain'). Gweler Cymm., 1951, 101-2.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.