LEWES, ERASMUS (1663?-1745), clerigwr

Enw: Erasmus Lewes
Dyddiad geni: 1663?
Dyddiad marw: 1745
Rhiant: John Lewes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William Llewelyn Davies

Y chweched a'r ieuengaf o feibion Capten John Lewes (isod), Gernos, plwyf Llangunllo ('Llanvayer ' yn ôl Foster, Alumni Oxonienses), Sir Aberteifi. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 22 Chwefror 1683/4, yn 20 oed, gan raddio yn 1688. Ar 16 Mehefin 1692 daeth yn ficer Roch, ac ar 5 Mawrth 1694 yn ficer Brawdy - y ddwy fywoliaeth hyn yn Sir Benfro. Yn 1695 daeth yn rheithor Betws Bledrws ac yn ficer Llanbedr-Pont-Steffan. Y mae S. R. Meyrick (The History and Antiquities of the County of Cardigan) yn argraffu'r geiriau sydd ar dabled coffa iddo yn eglwys Llanbedr-pont-Steffan; dywedir yno iddo farw 19 Chwefror 1744/5 yn 82 oed. Yn NLW MS 510A ceir pregethau Saesneg yn ei lawysgrifen, rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu yn 1693; yn NLW MS 744A y mae nodiadau cyffredinol ganddo yn Saesneg ac yn Lladin.

Y mae ei dad, JOHN LEWES, yn haeddu ei goffâu am mai 'wrth Arch y Parchedig Capten Lewes o'r Gernos ' yr ymgymerth Moses Williams â'r gwaith o gyfieithu Companion to the Altar (Vickers) yn Gymraeg. Argraffwyd y gwaith yn Llundain yn 1715 o dan y teitl Cydymmaith i'r Allor, Yn dangos, Anian ac Angen-rhndrwydd Ymbaratoad Sacrafennaidd, Modd y derbynniom y Cymmun Bendigedig yn Deilwng.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.