Ganwyd 3 Awst 1798, trydydd mab Richard Lewellin, Tremains, Coety, ger Penybont-ar-Ogwr, Morgannwg, a'i wraig (merch i David Jones, Llan-gan). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bont-faen a Choleg Iesu, Rhydychen; cafodd anrhydedd yn y dosbarth blaenaf yn yr arholiad terfynol yn y clasuron, a graddio'n B.A. yn 1822, M.A. yn 1824, B.C.L. yn 1827, a D.C.L. yn 1829. Cafodd urddau diacon yn 1822 ac offeiriad yn 1823, ar law esgob Rhydychen, ac yn 1826 derbyniodd swydd prifathro ysgol ramadeg Bruton yng Ngwlad yr Haf. Eithr yn lle mynd yno aeth i Goleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, fel ei brifathro cyntaf, yn 1827, a bu yno hyd ei farwolaeth, 25 Tachwedd 1878. Bu hefyd yn ficer Llanbedr Pont Steffan (o 1843) ac yn ddeon Tyddewi (o 1843). Claddwyd ef yn Llanbedr Pont Steffan.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.