ail fab i'r Parch. Watkin Lewes, Pen-y-benglog (plwyf Melinau), ac Ann Williams, Treamlod, Sir Benfro. Bu'r tad yn rheithor Melinau (1735-59) a Threfdraeth (1759-70). Addysgwyd y mab yn ysgol Amwythig ac yng Ngholeg Magdalene, Caergrawnt, lle y graddiodd yn 1763. Ar ôl cyfnod yn y Middle Temple, fe'i galwyd i'r Canghellys yn 1766. Priododd Rebeca Eleanora, merch hynaf Thomas Popcyn, y Fforest, ger Abertawe, a etifeddodd stadau helaeth yn Sir Forgannwg ac ym mhlwyf Rudbaxton, Sir Benfro. Wedi methu ohono bedair gwaith fel ymgeisydd seneddol yng Nghaerwrangon, troes ei sylw i ddinas Llundain. Yno fe'i dyrchafwyd yn siryf yn 1772 ac yn henadur gward Lime Street, yn farchog yn 1773, ac yn 1780 yn arglwydd faer. Yn 1771 fe'i cawn yn cyflwyno anerchiadau yn y Tŵr dros y tair sir (Penfro, Caerfyrddin, ac Aberteifi) i'r tri charcharor gwleidyddol - John Wilkes, yr arglwydd faer Crosby, a'r henadur Oliver. Yn 1780 fe'i hetholwyd yn un o'r pedwar aelod seneddol dros y ddinas, a chadwodd ei sedd hyd etholiad 1796. Ymddiddorai yn llên a hanes Cymru, a bu yn ei dro yn drysorydd Cymdeithas yr Hen Frutaniaid; efe oedd ail lywydd y Cymmrodorion, gan ddilyn Richard Morris. Tra helbulus fu rhan olaf ei fywyd; ac ef wedi afradloni ei arian aeth i ddyled, carcharwyd ef yn y Dafarn Goffi ar Ludgate Hill o fewn terfynau carchar y Fleet, ac yno, ar 13 Gorffennaf 1821, y bu farw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.