LEWIS, DAVID (1760 - 1850), clerigwr

Enw: David Lewis
Dyddiad geni: 1760
Dyddiad marw: 1850
Rhiant: David Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd yn 1760 yn y Dderwen Groes, ym mhlwyf Abergwili, Sir Gaerfyrddin, yn fab i David Lewis, a'i addysgu yn Llanpumpsaint ac yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin dan Robert Gentleman. Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen (Coleg Iesu), Mehefin 1782, ond nid ymddengys iddo raddio. Bu'n athro ac yn gurad yng Nghroesoswallt, ac urddwyd ef yn offeiriad Mai 1785; yn Ionawr 1787 sefydlwyd ef yn ficer Abernant, Sir Gaerfyrddin, ac yn gurad parhaus Cynwyl Elfed, Mawrth 1787. Bu yno hyd ei farw, 28 Gorffennaf 1850, a chladdwyd ef yn Abernant. Daliodd hefyd reithoraeth Garthbeibio, Sir Drefaldwyn, o 1794 hyd 1850.

Yr oedd Lewis yn ustus heddwch dros Sir Gaerfyrddin, ac yn archwiliwr i'r gymdeithas a sefydlwyd gan yr esgob Thomas Burgess er cynorthwyo darpar-glerigwyr. Yr oedd yn un o hyrwyddwyr eisteddfodau Caerfyrddin, ac ysgrifennodd ragair i bryddestau eisteddfod 1819. Cyhoeddodd Esponiad Byr o Gatecism yr Eglwys, 1824, sef cyfieithiad o waith B. Wood.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/