LEWIS, HUGH DAVIES (1866 - 1937), rheolwr cyffredinol cwmni yswiriant 'Liverpool and London and Globe'

Enw: Hugh Davies Lewis
Dyddiad geni: 1866
Dyddiad marw: 1937
Priod: Grace Mary Lewis (née Edmunds)
Rhiant: John Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: rheolwr cyffredinol cwmni yswiriant 'Liverpool and London and Globe'
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd yn Snow Hill, Birmingham, 26 Rhagfyr 1866, mab John Lewis, gweinidog eglwys Gymraeg Methodistiaid Calfinaidd Wood Street, Birmingham. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Edward VI. Pan oedd yn 23 oed penodwyd ef yn rheolwr cangen Birmingham y ' Northern Assurance Co '; wedi hynny bu'n rheolwr cyffredinol y ' Central Insurance Co,' a unwyd, yn 1906, â chwmni'r ' Liverpool and London and Globe,' pryd y penodwyd ef yn rheolwr y cwmni hwnnw yn Llundain. Yn 1921 penodwyd ef yn rheolwr cyffredinol y cwmni. Bu hefyd yn rheolwr cyffredinol y ' Japan Insurance Co. ', a ffurfiwyd i ddelio â'r safle ar ôl y ddaeargryn yn Japan yn 1923. Yr oedd yn aelod o gorff llywodraethol y London School of Economics ac o gyngor Prifysgol Lerpwl. Bu'n siryf Môn yn 1934-5.

Cymerodd ddiddordeb mewn ehedeg, a chafodd ei dystysgrif fel peilot yn 50 oed. Priododd, 1891, Grace Mary Edmunds, Caernarfon. Bu farw yn Birkenhead, 8 Mawrth 1937. Brawd iddo oedd Syr A. E. Lewis.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.