LEWIS, Syr ALFRED EDWARD (1868 - 1940), bancer

Enw: Alfred Edward Lewis
Dyddiad geni: 1868
Dyddiad marw: 1940
Priod: Mary Lewis (née Roberts)
Rhiant: John Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bancer
Maes gweithgaredd: Economeg ac Arian
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd yn Birmingham, 2 Awst 1868, mab y Parch. John Lewis, gweinidog eglwys Gymraeg y Methodistiaid Calfinaidd yn Wood Street. Cafodd ei addysg yn Ysgol Edward VI, ac aeth i wasanaeth y ' Birmingham and Midland Bank ', ac wedyn yn isreolwr y ' Midland Bank ' yn New-Street, cyn cael ei benodi'n rheolwr cyffredinol y Bradford District Bank yn 1910. Pan unwyd y banc â'r National Provincial Bank yn 1919 penodwyd ef yn gydreolwr cyffredinol y National Provincial Bank. Daeth yn brif reolwr cyffredinol yn 1922, yn un o'r cyfarwyddwyr yn 1929, ac yn ddirprwy gadeirydd y banc yn 1934.

Gwnaed ef yn farchog (K.B.E.) yn 1921, a chafodd radd doethur er anrhydedd gan Brifysgol Birmingham yn 1934. Cafodd radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, 1935. Yr oedd yn aelod o gyngor Coleg y Gogledd ac o gyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Priododd, 1896, Mary Roberts, Chapel Allerton, Leeds. Bu farw 21 Chwefror 1940. Brawd iddo oedd Hugh D. Lewis.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.