LEWIS, JOHN (GOMER) (1844 - 1914), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac areithydd

Enw: John (Gomer) Lewis
Dyddiad geni: 1844
Dyddiad marw: 1914
Rhiant: John Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac areithydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Dyngarwch
Awdur: William Caradoc Davies

Ganwyd Mehefin 1843 (1844?) ym Mhensarn, plwyf Llangeler, mab i John Lewis, diacon gyda'r Bedyddwyr a masnachwr. Bedyddiwyd ef yn 14 oed, a thyfodd dan weinidogaeth Benjamin Thomas ('Myfyr Emlyn'), gan ddechrau pregethu yn 1862. Aeth o ysgol ramadeg Castellnewydd Emlyn i goleg Hwlffordd yn 1864, ac ordeiniwyd ef yn Salem, Maesteg, yn 1867. Adeiladwyd Salem Newydd, ac erbyn 1878 derbyniodd dros 1,100 o aelodau. Ymsefydlodd yn Belle Vue, Abertawe, Mawrth 1878, ac wedi agor Capel Gomer ym Mawrth 1891, ychwanegodd yr enw 'Gomer' at ei enw ei hun. Adnabyddid ef fel y ' Dr. Gomer ' wedi ymweld ohono ag U.D.A. ym Mai 1878. Yr oedd yn enwog fel pregethwr, yn ddyngarwr mawr ymhlith y tlodion, yn ddihafal fel darlithydd - rhoes ei ddarlithiau ar ' Ffair y Byd,' ' Abraham Lincoln,' a ' Gogoniant Amrywiaeth,' rai cannoedd o weithiau. Nodweddid ef gan huodledd, ffraethineb, a'i feistrolaeth o'r gynulleidfa. Bu'n llywydd cymanfa Bedyddwyr Morgannwg yn 1880 ac yn ysgrifennydd cymanfa gorllewin Morgannwg, ac yn 1898 yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru. Testun ei anerchiad oedd ' Ein Cenedl a'n Crefydd.' Bu farw 11 Gorffennaf 1914 yn Brondeg, Drefach, a chladdwyd yn Saron, Llangeler.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.