Ganwyd yn Nhŷ-rhos, Eglwys Wen, Sir Benfro, yn Hydref 1836, y seithfed o wyth plentyn David ac Elizabeth Thomas - brawd iddo oedd Stephen Thomas, gweinidog Pantycelyn. Yr oedd ei dad yn un o sylfaenwyr eglwys Bethabara yn 1826 ac yn ddiacon yno o'r cychwyn hyd ei farw; ac yn ei gartref ef yn 1823 y cychwynnwyd yr ysgol Sul yn nyddiau cynnar yr achos yn yr ardal. Cafodd ei addysg fore yn ysgol Simon Evans, Hebron, ym Mhenygroes, ac yn ddiweddarach, ar ôl symud o'r teulu i Bantygarn (1849), mewn ysgol yng nghapel Bedyddiedig Elim, Eglwyswrw. Aeth i ffwrdd i Dredegar yn 15 oed i chwilio am waith, ac yn 1852 fe'i bedyddiwyd a'i dderbyn yn aelod yn eglwys Seilo. Dychwelodd adref yn weddol fuan, a dechrau pregethu, ac wedi naw mis yn ysgol y Dr. George Rees yn Abergwaun, fe'i derbyniwyd yn 1855 i athrofa Hwlffordd ac yn 1858 i Fryste. Ordeiniwyd ef yn y Drefach a'r Graig, Castellnewydd Emlyn, yn 1860, yn gydweinidog â Timothy Thomas; symudodd i Benarth at y Saeson yn 1873, ac oddi yno yn 1875 i dref Arberth, lle yr arhosodd hyd ei farw, 20 Tachwedd 1893. Claddwyd ef yn Arberth. Priododd (1) Margaret George, Bailey Farm, Castellnewydd Emlyn, 'Y Ferch o Lan Teifi' y canodd ef iddi, ac aelod yn eglwys y Graig (bu farw 1878), a ganed iddynt bum plentyn; (2) gweddw David Lewis ('Cynfyn'), Caerfyrddin, a'i goroesodd rai misoedd.
Gŵr aml ei ddoniau oedd 'Myfyr Emlyn.' Daeth yn un o bregethwyr amlycaf ei gyfnod, a chyhoeddwyd pregethau o'i eiddo yn Spence - Exall (gol.), Pulpit Commentary. Yr oedd yn arweinydd eisteddfodol poblogaidd, a byddai galw mawr arno i ddarlithio ar bynciau fel 'Gomer,', Caleb Morris, Fetter Lane (yntau'n frodor o'r Eglwys Wen), enwogion y pulpud Cymraeg, a'i daith i America yn 1880. Yr oedd hefyd yn hoff o brydyddu, yn enwedig ar ffurf y farwnad, a chyhoeddwyd cyfrol o'i weithiau, yn y ddwy iaith, dan olygiaeth William Morris ('Rhosynog,') Barddoniaeth Myfyr Emlyn, 1898, heblaw Marwnad R. A. Rees (Rhys Dyfed) Rhydlewis, 1868, a marwnadau yn E. Pan Jones, Cofiant Samuel Griffiths, Horeb, 1879, a J. P. Williams, Cofiant Thomas Williams, Llangunog, 1887. Ond cofir amdano'n bennaf heddiw efallai am ei gofiannau Cofiant … Owen Griffiths, … Gelli a Blaenconin, swydd Benfro , 1889, ac uwchlaw popeth o'i eiddo Cofiant Dafydd Evans, Ffynonhenry , 1870 (a phedwar argraffiad diweddarach), a Ffraethebion Dafydd Evans, Ffynonhenry , 1908, a seiliwyd ar y cofiant. Bu'n olygydd Seren Cymru o 1887 hyd ei farw, a thraddododd anerchiad ar Fedyddwyr Aberteifi a'r cylch yng nghyfarfodydd yr Undeb yno yn 1888. Bu'n gymorth i sefydlu achos yng Nghwmduad yn y cyfnod 1868-9, a bu'n amlwg iawn yn nadl uno colegau ei enwad yn yr 80au diweddar a'r 90au cynnar. Yn wleidyddol, Rhyddfrydwr pybyr ydoedd, fel y dengys rhai o'i gerddi, megis 'Gladstone' ac 'Etholiad sir Benfro.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.