LEWIS, WILLIAM HOWELL (1793? - 1868), gweinidog Annibynnol

Enw: William Howell Lewis
Dyddiad geni: 1793?
Dyddiad marw: 1868
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yng Nghaerfyrddin, yn berthynas i Sarah Lewis, gwraig gyntaf David Peter. Dechreuodd bregethu yn Heol Awst, Caerfyrddin, cafodd ei dderbyn i Goleg Caerfyrddin yn 1814, yn 21 oed, a bu yno hyd 1818. Bu'n weinidog yn Arberth, 1818-21, ac yn athro cynorthwyol yn ysgol y coleg yr un pryd am 'ryw ddwy flynedd neu ragor'; yn Glastonbury, 1821-47; ac yn Brynbuga, 1847-50. Wedi ymddeol, aeth i fyw i Fryste; yr oedd yno o 1858 hyd 1865. Cyflwynodd amryw o lawysgrifau Philip Henry i'r Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin, yn 1863, ynghyd ag argraffiad prin o Destament Groeg Stephanus. Ysgrifennodd Memoirs of the Life and Labours of the Reverend David Peter. Bu farw yn 1868.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.