Brodor o Faesyfed ydoedd, brawd iddo, meddir, oedd Thomas Lewis, y cynghorwr Methodistaidd. Yr oedd yn Llundain yn 1728, a daeth i'r amlwg c. 1740 fel cyhoeddwr i'r cymdeithasau crefyddol. Ei gartref ysbrydol oedd y Tabernacl, Moorfields, neu seiat Fetter Lane. O'i swyddfa yn Bartholomew Close dechreuodd gyhoeddi The Christian's Amusement yn 1740-1, cyhoeddiad wythnosol yn cynnwys llythyrau, gan mwyaf, oddi wrth George Whitefield a'i ohebwyr. Parhaodd y papur am rai blynyddoedd dan y teitlau amrywiol The Weekly History, 1741-2, An Account of the Progress of the Gospel, 1743-4), a The Christian History, 1744-5. Cyhoeddodd lawer o lyfrynnau o waith Methodistiaid y cyfnod. Bu farw 13 Mai 1755, a chladdwyd ef yn Bloomsbury. Yr oedd ei wraig a'i blant yn Forafiaid.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.