Dywedir ei fod yn frawd i John Lewis, argraffydd. Tybir mai ef a drosodd yn Gymraeg un o lyfrau Bunyan, sef Bywyd a Marwolaeth yr Annuwiol dan enw Mr. Drygddyn (Caerfyrddin, 1731). Apwyntiwyd ef yn gynghorwr cyhoeddus yn sasiwn Watford, 1743, ond prin y gellir dweud mai ef yw'r 'Thos. Lewis' a ddewiswyd i gynghori'n breifat yn 'Pentruch' a 'Newhouse.' Y mae'n amheus hefyd ai ef ynteu Thomas Lewis, curad Merthyr Cynog (ficer Llanddew 1741-1783), yw'r gŵr a gyfrifid yn brif arolygwr seiadau Brycheiniog. Yn ddiweddarach yn 1743 fe'i penodwyd i arolygu'r seiadau rhwng y 'Passage' (dros Hafren) ac afon Wysg, ac i gynorthwyo'r brodyr Saesneg pan fyddai angen. Enwir rhyw Thomas Lewis yn aelod o sasiynau ym Morgannwg yn 1747-9 yn adroddiadau Thomas William, Eglwys Ilan.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.