Ganwyd 6 Ebrill 1836, mab Lewis Lewis a Margaret ei wraig, Hen Dŷ Mawr, Llanrhystyd, Sir Aberteifi. Teiliwr oedd ei dad; yr oedd hefyd yn gerddor. Dilynwyd ef yn yr un grefft gan ddau o'r meibion, sef David Lewis, ' y Cerddor ' a John, sef ' Eos Glyn Wyre.' Codwyd y brawd arall, Evan, yn grydd.
Priododd John Lewis ferch Felinganol, o'r enw Jane Davies, ac aeth i fyw i'r lle hwnnw, a ganwyd iddynt saith o blant. Cyfansoddodd rai tonau a rhanganau. Ceir tôn o'i eiddo yng nghasgliad William Harries, Heolyfelin, 1896, yn dwyn yr enw ' Adgyfodiad.' Cyhoeddwyd rhangan o'i eiddo - y geiriau a'r gerddoriaeth yn Golud yr Oes. Ond fel bardd yr enwogodd ei hun. Cyfansoddodd lawer o bryddestau, caneuon, ac englynion, ac enillodd wobrwyon lawer. Bu farw 2 Tachwedd 1892 a chladdwyd ym mynwent eglwys Llanrhystyd. Trosglwyddodd ei blant ei lawysgrifau ef a rhai ei frawd David Lewis, gyda llawer o lyfrau printiedig, i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1929. Brawd iddo oedd David Lewis (1828 - 1908.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.