Ganwyd 12 Tachwedd 1828 yn Hen Dŷ Mawr, Llanrhystyd, Sir Aberteifi, mab Lewis a Margaret Lewis. Yr oedd ei dad yn ganwr da ac yn cynnal ysgolion canu, ac efe a Thomas Jenkins, athro ' Ieuan Gwyllt,' a ddysgodd gerddoriaeth iddo. Yn 10 oed gallai ddarllen cerddoriaeth yn rhwydd, ac yn 15 oed dechreuodd gyfansoddi a chynnal ysgolion canu. Enillodd ei wobr gyntaf am gyfansoddi tôn M.B.D. o dan feirniadaeth ' Tanymarian '; enillodd lawer o wobrwyon wedi hyn o dan feirniaid gorau Cymru. Enillodd ddwy wobr yn eisteddfod genedlaethol Aberdâr, 1868; dwy yn Abertawe, 1868; tair yn Llandudno, 1864; ac un yn Aberystwyth, 1865. Cyhoeddwyd nifer o'i gyfansoddiadau yn Y Cerddor Cymreig, Greal y Corau, Y Gerddorfa, a Cronicl y Cerddor.
Cydolygodd â ' Gwilym Gwent ' gasgliad o donau, Llwybrau Moliant, at wasanaeth y Bedyddwyr, cynorthwyodd gyda'r casgliad Caniadau y Cysegr a'r Teulu (Gee), a bu ganddo law mewn cynorthwyo ynglŷn â phob casgliad o donau wedi hyn. Gwasanaethodd fel beirniad cerddorol ar hyd a lled Cymru. Cyfansoddodd lawer iawn o donau a chafwyd casgliad ohonynt gan J. T. Rees. Treuliodd flynyddoedd olaf ei fywyd yn gwneuthur ymchwil i awduron tonau ac emynau.
Bu farw 6 Hydref 1908, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llanrhystyd. Brawd iddo oedd John Lewis ('Eos Glyn Wyre').
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.