Ganwyd 28 Gorffennaf 1834 yn ôl Blackwell yn Nhredegar, sir Fynwy. Cymerai ddiddordeb mewn canu yn blentyn, ac yn 10 oed canai alto yng nghôr ei ewythr yn Rhymni. Gof ydoedd wrth ei alwedigaeth. Symudodd yn ddyn ieuanc i fyw i Blaenau Gwent, a bu'n arwain y seindorf yno. Priododd yn 1862. Yr oedd y cyfansoddwr mwyaf poblogaidd yn ei gyfnod a chyfansoddodd nifer fawr o ddarnau cerddorol, yn ganigau, rhanganau, anthemau, a chaneuon. Bu ei ganigau a'i ranganau, ' Yr Haf,' ' Cymru Gynt,' ' Y Gwanwyn,' ' Y Clychau,' ' Yr Afonig,' a ' Gwenau y Gwanwyn,' yn boblogaidd iawn yn hanner olaf y ganrif ddiwethaf. Yn eisteddfod genedlaethol Aberystwyth, 1865, enillodd y wobr am ddeuawd i ferched, a chafodd £10 am ei gantawd, 'Y Mab Afradlon.' Cyhoeddwyd y gantawd, 'Plant y Tloty,' a enillodd y wobr iddo yn eisteddfod Carmel, Treorci. Golygodd (gyda David Lewis, Llanrhystyd) gasgliad o donau, Llwybrau Moliant, at wasanaeth y Bedyddwyr, a cheir nifer o donau o'i waith ynddo. Yn 1872 ymfudodd i Plymouth, Pennsylvania, America, ac yno y bu farw; claddwyd 5 Gorffennaf 1891.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.