Ganwyd yn y Neuadd-fach, Llanybydder, yn 1816, yn fab i Timothy Lewis, teiliwr, ac aelod gyda'r Bedyddwyr yn Aberduar - yr oedd Joshua Lewis yn ewythr i Timothy Richard. Aeth i ysgol a gedwid ar y pryd yn Rhyd-y-bont, gan William Jones (Abertawe wedyn), a dechreuodd yno gyfeillachu â'r Annibynwyr. Yn 16 oed, agorodd ysgol yng Ngwernogle, ond yn bur fuan aeth yn gynorthwywr i Evan Jones, gweinidog Trelech, a gadwai ysgol ramadeg yno; yno y dechreuodd bregethu. Aeth i Goleg Caerfyrddin yn 1834, a rhydd adroddiadau'r coleg glod anarferol iddo fel myfyriwr. Yn 1838, urddwyd ef yn Henllan Amgoed, yn gyd-weinidog â John Lloyd (1775 - 1850) a oedd wedi bugeilio Henllan a'i changhennau niferus er 1805; wedi marw Lloyd, llwyddodd Joshua Lewis i gael gan y rhan fwyaf o'r canghennau ymgorffori'n eglwysi ar wahân, fel nad oedd ganddo erbyn y diwedd ond Henllan a Llanboidy dan ei ofal. Ar y dechrau, nid ystyrid ef yn bregethwr poblogaidd, ond tyfodd wedyn yn bregethwr grymus yr oedd galw amdano ym mhobman yng Nghymru. Eto, myfyriwr oedd ef yn anad unpeth arall, a dengys ei ddyddlyfr (o 1838 hyd 1872) mor anarferol eang oedd cwrs ei ddarllen - Hebraeg, y clasuron, athroniaeth, mathemateg; bu fwy nag unwaith ddymuniad i'w gael yn athro yn un o golegau ei enwad. Yr oedd yn Rhyddfrydwr cadarn, a chanddo ddiddordeb neilltuol mewn addysg; yr oedd yn flaenllaw iawn yn y ' Mudiad Gwirfoddol,' ac efe oedd gyda'r olaf i roi'r gorau iddo. Sgrifennodd lawer i'r cyfnodolion, a dadleuai yn yr ysbryd gorau. Cafodd ergyd o'r parlys yn gynnar yn 1874, ac ni phregethodd mwyach; bu farw'n ddisyfyd, 8 Hydref 1879. Ni bu'n briod. Y mae cofiant iddo (1881, gan Lewis James) - ar hwn y seiliwyd yr ysgrif hon; y mae'n gofiant hynod ddiddorol, pe na bai ond am y dyfyniadau helaeth o ddyddlyfr Joshua Lewis a gynhwysir ynddo.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.