Ganwyd yn Ffaldybrenin 10 Hydref 1845, mab Timothy ac Eleanor Richard. Bedyddiwyd ef yn 1859 a daeth yn aelod o eglwys y Bedyddwyr, Caeo. Wedi iddo fod am gyfnod yn athro ysgol aeth i Goleg y Bedyddwyr, Hwlffordd, yn 1865, ac yn 1869 anfonwyd ef i China gan Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr. Llafuriodd yn China, gydag ysbeidiau anaml ym Mhrydain, o 1870 hyd 1915 - ar y cyntaf yn Chafoo, wedyn yn Shantung a Shansi, ac yna, yn Shanghai, pan ddewiswyd ef (1891) yn ysgrifennydd y ' Chistian Literature Society of China. ' Ymddiswyddodd yn 1915 a bu farw yn Llundain ar 17 Ebrill 1919.
Y mae'n amhosibl rhoddi hyd yn oed fraslun o'i weithrediadau a'i weithgareddau amrywiol ac amlochrog a'r dylanwad eang a gafod ei lafur. Yr oedd yn arloeswr fel cenhadwr, yn ddyngarwr, yn wladweinydd cenhadol, yn ysgolhaig, yn addysgydd, yn awdur, yn ŵr cyhoeddus, ac yn gyfaill a chynghorwr tywysogion a gwerinwyr; yr oedd enw ' Li T'i-mo-tai ' yn adnabyddus ym mhob rhan o China. Cafodd rai o anrhydeddau uchaf China, e.e. yr oedd yn Fandarin o'r radd uchaf ac yn aelod o Urdd y Ddraig Ddwbl. Cafodd radd Ll.D. ('er anrhydedd') Prifysgol Cymru (1916); yr oedd hefyd yn D.D. a Litt.D. Gweler hefyd yr erthygl ar ei ewythr Jedediah Richards.
Priododd (1), 1878, Mary Martin (bu farw 1903), a bu iddynt bedwar o blant, a (2), yn 1914, Dr. Ethel Tribe, a oroesodd ei gŵr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.