Ganwyd yng Nghwmcynwal, Llanwrda, Sir Gaerfyrddin. Cafodd ychydig addysg yn ei ardal enedigol, a phrentisiwyd ef yn of. Ymsefydlodd fel gof yn Nhalyllychau, ac yno y bu ar hyd ei oes. Cafodd argraffiadau crefyddol dan weinidogaeth y Bedyddwyr, eithr William Lloyd o Gaeo oedd ei dad ysbrydol. Ymunodd â'r Methodistiaid yn Llansawel, ac ef oedd un o sefydlwyr yr achos yn Esgair-nant yn 1806. Cyfrifid ef yn un o flaenoriaid amlycaf y Methodistiaid yn y sir. Enwogodd ei hun fel awdur yr emyn ' Wrth gofio'i riddfannau'n yr ardd,' a ymddangosodd gyntaf mewn casgliad o'r enw Hymnau ar Amryw Destunau (Caerfyrddin, 1823). Bu farw 14 Medi 1842, a chladdwyd ym mynwent Talyllychau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.