Ganwyd yn 1741, mab i Dafydd Llwyd, Blaen-clawdd, Cynwyl Gaeo, Sir Gaerfyrddin. Ac yntau'n 18 oed gwrandawodd bregeth gan Peter Williams a gwnaed argraff ddofn ar ei galon, ond ymhen y flwyddyn, wrth wrando ar Evan Jones, Lledrod, y cafodd lwyr argyhoeddiad. Ymunodd ag eglwys Annibynnol Crug-y-bar, ond yn 1760 ymneilltuodd nifer o'r aelodau i ailgychwyn seiat Fethodistaidd yng Nghaeo. Dechreuodd bregethu yn 1763, a daeth yn fuan yn un o'r pregethwyr mwyaf dylanwadol a thanllyd yng Nghymru. Teithiodd y wlad benbwygilydd am 40 mlynedd. Priododd Margaret Jones, merch y 'Black Lion,' Llansawel, ac aeth i fyw i Henllan Gaeo. Canodd 'Pantycelyn' gân nodedig ar achlysur marw'i fab ieuanc yn 1783. Bu farw 17 Ebrill 1808 a chladdwyd ef ym mynwent Caeo. 'Y Llwyd ddoeth' y geilw 'Pantycelyn' ef yn ei farwnad i Daniel Rowland.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.