Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Ganwyd yn 1837 ym Mydroilyn, Sir Aberteifi. Addysgwyd ef yn Ystrad Meurig. Bu'n cadw ysgol am gyfnod yng Nghrugybar. Yn 1862 aeth i Goleg Caerfyrddin; yn 1864 cymerth ofal ysgol Parc-y-felfet, ac wedi tair blynedd yno aeth i Manchester College ac enillodd radd B.A. gydag anrhydedd yn y dosbarth blaenaf. Yna aeth i Gaerdydd i gadw ysgol uwchradd, a bu'n rithriadol lwyddiannus yn y gwaith.
Yn 1874 penodwyd ef yn athro cynorthwyol yng Ngholeg y Bala yn ystod absenoldeb y prifathro M. D. Jones ar daith yn casglu at y coleg yn America. Ym mrwydr y cyfansoddiadau - gweler M. D. Jones - gyda phlaid y cyfansoddiad newydd yr ymunodd, eithr, gan mor dangnefeddus ei natur, ni chymerodd ran amlwg yn yr helynt. Ef a benodwyd yn bennaeth Coleg y Cyfansoddiad Newydd a sefydlwyd i ddechrau ym Mhlasyndre, Bala, ac a symudwyd yn ddiweddarach i Fangor. Nid hir y bu cyn i'w iechyd dorri i lawr, ac aeth ar fordaith, ond bu farw ym Mhort Said 11 Chwefror 1892, ac yno y claddwyd ef.
Bonheddwr wrth natur, ysgolhaig gwych, ac anffawd fawr ei fywyd oedd i un o'i anianawd ef fod â dim cyswllt â chythrwfl fel ag a wnaed yn y Bala; diau i hynny amharu ar ei iechyd a byrhau ei ddyddiau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.