LEWIS, WILLIAM (fl. 1786-94), emynydd

Enw: William Lewis
Priod: Phoebe Lewis
Plentyn: Maria Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

trigai yn Abermawr, Llangloffan, Sir Benfro. Gwehydd ydoedd, a dywedir ei fod yn rhagori ar wneuthur carpedau cain ac artistig. Yr oedd ei frawd, Thomas Lewis, yn weinidog ar eglwys Fedyddiedig Llangloffan, a bu yntau'n ddiacon yno am flynyddoedd. Cyhoeddwyd ei emynau 'wedi ei gosod allan gan Morris Griffith' yn Galar a Gorfoledd y Saint; neu Hymnau cymmwys a pherthynol i Addoliad Cyhoeddus (Trefeca, 1786); caed ail argraffiad diwygiedig o'r casgliad o wasg Peter Evans, Caernarfon, 'dros Hugh Jones,' yn nechrau'r ganrif ddiwethaf, dan y teitl, Y Durtur, sef Ychydig o Hymnau, ar Amryw Destynau Efengylaidd. Ceir ei emyn enwog, ' Cof am y cyfiawn Iesu,' yn y ddau lyfryn. Tybir iddo farw c. 1794, eithr cyhoeddwyd Hymnau Newyddion (Caerfyrddin) o'r eiddo 'gan Evan Rees ' yn 1798. Bu iddo ef a Phoebe ei wraig ddau o blant, ond i un ohonynt, Maria, y bu disgynyddion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.