Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Ganwyd ym Mrynaman 15 Ebrill 1845. Cafodd ychydig addysg yn yr ysgol ddydd, ac wedi hynny gan ryw Prosser, Brynaman. Dechreuodd weithio yn y lofa yn 9 oed.
Daeth i wybod am gerddoriaeth trwy astudio llyfrau Mills ac Eleazar Roberts. Enillodd holl dystysgrifau Coleg y Tonic Solffa, a chafodd y radd O F T.S.C.; efe oedd y cyntaf yng Nghymru i ennill y radd honno. Cynhaliodd ddosbarthiadau cerddorol mewn amryw ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin. Cyfansoddodd lawer o donau ac anthemau a darnau i blant. Cyhoeddodd Odlau Mawl, ac ysgrifennodd gyfres o wersi cerddorol i'r Tywysydd. Cyhoeddodd hefyd Llawlyfr y Llais. Gwasnaethodd fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd canu. Golygodd, gydag eraiil, Y Caniedydd, Y Salmydd Cenedlaethol, a'r Caniedydd Cynulleidfaol.
Bu farw 20 Ionawr 1920, a chladdwyd ef ym mynwent capel Annibynwyr Gibea. Yr oedd yn ustus heddwch (1919) yn Sir Gaerfyrddin.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.