Ganwyd ym Mhwllheli, Sir Gaernarfon, 15 Ionawr 1825, mab John a Margaret Roberts. Ac ef yn ddeufis oed, symudodd y rhieni i fyw i Lerpwl. Addysgwyd ef yn ysgol Owen Brown, Rose Place, a'r Liverpool Institute. Yn 13 oed aeth i weithio i swyddfa cyfreithwyr. Yn 1853 aeth i swyddfa clerc yr ustusiaid, a dringodd i'r safle o brif gynorthwywr i glerc ynad cyflog y ddinas; daliodd y swydd hyd ei ymddiswyddiad yn 1894. Gwnaed ef yn ustus heddwch yn 1895.
Ysgrifennodd i'r cylchgronau: Y Drysorfa, Y Traethodydd, a'r Geninen, ac yn wythnosol i'r Amserau dan yr enw 'Meddyliwr.' Astudiodd seryddiaeth a chyfieithodd ddwy gyfrol Dr. Dick ar y gyfundrefn heulog yn Gymraeg, ac âi o gwmpas i ddarlithio ar seryddiaeth. Ef a ysgrifennodd gofiant Henry Richard ('Apostol Heddwch') a'r nofel Gymraeg Owen Rees, sydd yn darlunio bywyd Cymreig yn Lerpwl.
Ef oedd arloeswr cyfundrefn y Tonic Sol-ffa yng Nghymru, a theithiodd ar hyd a lled Cymru i'w hegluro ac i sefydlu dosbarthiadau cerddorol. Cyhoeddodd Llawlyfr Caniadaeth, Llawlyfr y Tonic Solffa, Llawlyfr i ddarllen yr Hen Nodiant, a Hymnau a Thonau. Bu'n flaenor ac yn arweinydd y canu yng nghapel Netherfield Road, ac ef (gyda John Edwards) a arweiniodd y gymanfa ganu gyntaf yn Lerpwl yn 1880. Ef a gyfansoddodd yr emyn poblogaidd 'O na bawn yn fwy tebyg i Iesu Grist yn byw.'
Bu farw 6 Ebrill 1912, a chladdwyd ef ym mynwent Anfield, Lerpwl.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.