Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Ordeiniwyd ef yn ddiacon 27 Mai 1711, ac yn offeiriad 15 Mehefin 1712, gan esgob Llandaf. Disgrifir ef fel myfyriwr o Goleg Iesu, Rhydychen, y tro cyntaf, ac fel B.A. o'r coleg hwnnw ar yr ail achlysur (Llandaff Subscription Books). Yr unig berson o'r enw hwn a raddiodd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 1711/12, oedd David Lloyde, mab Phillip Lloyde, o Dyddewi, Sir Benfro, a raddiodd yn B.A. 24 Mawrth 1711/2, M.A., 1714 (Foster, Alumni Oxonienses). Cafodd fywoliaeth Llandefalle, sir Frycheiniog, 3 Rhagfyr 1713, a Chefnllys, sir Faesyfed, 3 Hydref 1717, y ddwy yn esgobaeth Tyddewi. Bu yn y ddau le hyn hyd ei farw (1747?).
Bu Lloyd yn gyfaill a noddwr i Howel Harris ar y cychwyn; ciniawai Harris gydag ef a hoffai ef (dyddlyfrau); ond yn ddiweddarach teimlai'r ficer fod ymddygiadau Harris yn sawru o 'sism,' a bu gohebiaeth ddiddorol rhyngddynt (1741-3) - Trevecka Letters, 330, 331, 339, 343, 822, 850, 895, 918 (dyfyniadau helaeth yn H. J. Hughes, Life of Howell Harris, pen. xii).
Cyfieithodd A Discourse concerning the Inventions of Man in the Worship of God, gan W. King, yn Gymraeg o dan y teitl Ymadrodd ynghylch Dychymygion Dynion yn Addoliad Duw. Bu farw cyn Hydref 1747.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.