LLOYD, DAVID (1752 - 1838) clerigwr, bardd, a cherddor

Enw: David Lloyd
Dyddiad geni: 1752
Dyddiad marw: 1838
Rhiant: Mary Lloyd (née James)
Rhiant: Thomas Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, bardd, a cherddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir; Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: John James Jones

Ganwyd 12 Mai 1752, yng Nghroes Cynon, Llanbister, sir Faesyfed, unig fab Thomas Lloyd, Trevodich, a Mary, merch David James, Croes Cynon Fach. Gweithiodd am beth amser ar dyddyn ei dad, a didrefn fu ei ddyddiau ysgol. Eto llwyddodd i ennill gwybodaeth o'r Lladin ac o fathemateg, a dysgodd Roeg ar ei ben ei hun. Yn y flwyddyn 1771 agorodd ysgol fechan yn Llanbister. Yno ymbaratodd ar gyfer urddau eglwysig. Bu'n gurad Putley, sir Henffordd, o 1785 hyd 1789, pan wnaethpwyd ef yn ficer Llanbister. Yno y bu hyd ei farw 3 Mawrth 1838. Yn y flwyddyn 1792 cyhoeddodd The Voyage of Life, sef cân yn null Edward Young. Ymddangosodd argraffiad newydd helaethach yn y flwyddyn 1812 o dan y teitl Characteristics of Men, Manners, and Sentiments, or The Voyage of Life, ac yn gyflwynedig i'r esgob Burgess. Cyhoeddodd hefyd waith o'r enw Horae Theologicae (Llundain, 1823), ac ymdeithgan o'r enw ' The Loyal Cambrian Volunteers,' yr unig un a gyhoeddwyd o'i amryw weithiau cerddorol. Yn ychwanegol at hyn yr oedd Lloyd yn beiriannydd medrus, a dywedir iddo ddyfeisio 'peiriannau o symudiad parhaol' ('perpetual motion engines').

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.