LLOYD, JOHN (1833 - 1915), diwygiwr gwleidyddol a hynafiaethydd

Enw: John Lloyd
Dyddiad geni: 1833
Dyddiad marw: 1915
Rhiant: John Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwygiwr gwleidyddol a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Aelod o deulu'r Dinas, Aberhonddu - ond eu hendre oedd y Dinas yn Llanwrtyd. Aeth un o'r teulu hwn, JOHN LLOYD (1748 - 1818) i wasanaeth yr East India Company, bu'n brwydro yn erbyn Tipw Sahib, a chasglodd gryn arian a'i galluogodd i brynu stad Abercynrig y tu allan i Aberhonddu. Bu ei fab hynaf, JOHN LLOYD (ganwyd yn Aberhonddu 3 Mehefin 1797, bu farw 15 Rhagfyr 1875), yn Eton a Balliol; cymerai ran yn eisteddfodau ei ddydd, a chyhoeddodd gyfrol o brydyddiaeth Ladin a Saesneg, 1847 (ail arg. 1875); efe a gododd blasty presennol Dinas (Aberhonddu). Ei fab ieuengaf ef, John Lloyd, yw gwrthrych y nodyn hwn. Fe'i ganwyd yn y Dinas 3 Medi 1833, a chafodd ei addysg yn Bridgnorth ac yng Ngholeg S. Ioan yn Rhydychen. Ni raddiodd; ac am beth amser bu'n gofalu am stad y teulu; yn 1865 gwnaed ef yn ustus heddwch, a phriododd - gorwyres i David Griffith (1726 - 1816) oedd ei wraig. Ond yn 1877 troes yn fargyfreithiwr ac aeth i fyw i Lundain, a daeth yn amlwg yn y bywyd cyhoeddus. Daeth yn ysgrifennydd y 'London Municipal Reform Association' - o ymdrechion hwnnw yn erbyn corfforaeth dinas Llundain y tarddodd cyngor sir Llundain, y bu Lloyd wedyn yn aelod ohono. Yn ei hen sir, ymdrechodd i ddileu'r tollbyrth, a dadleuodd dros hawliau 'commoners' Fforest Fawr Brycheiniog. Cyhoeddodd doreth o bamffledau ac o gerddi dychan, ac yr oedd yn bleidiwr selog i Gladstone yn erbyn Chamberlain. Ond ei brif hawl i'w gofio yn y geiriadur hwn yw'r gwaith gwerthfawr a wnaeth fel hynafiaethydd. Yn ystod ei frwydrau ar hen hawliau'r tyddynwyr yn y maenorydd, yr oedd wedi casglu crynswth o ddogfennau hanesyddol; ac efe hefyd a ddiogelodd gronfa fawr o bapurau o swyddfa Henry Maybery, cyfreithiwr yn Aberhonddu a fu â chryn law ym musnes rhai o 'feistri haearn' cynnar y Deheudir. Cyhoeddodd Lloyd lawer o ddogfennau yn ei dri phrif lyfr: Historical Memoranda of Breconshire (Aberhonddu, dwy gyfrol, 1903, 1904), The Great Forest of Brecknock (Llundain, 1905), a The Early History of the Old South Wales Ironworks (Llundain, 1906). Bu farw 6 Mehefin 1915.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.