LLOYD, JOHN (1558? - 1603), clerigwr ac ysgolhaig

Enw: John Lloyd
Dyddiad geni: 1558?
Dyddiad marw: 1603
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Ninbych - yr oedd yn berthynas agos i Humphrey Llwyd (c. 1527 - 1568). Y mae'r cwbl a wyddys amdano i'w weled yn y D.N.B. Bu yn Ysgol Winchester a New College yn Rhydychen; bu'n gymrawd o'i goleg o 1579 hyd 1596, a chafodd fywoliaeth Writtle (Essex) gan y coleg yn 1598; bu farw yn Writtle yn 1603, a chladdwyd ef yno.

Cyhoeddodd waith Josephus ar y Macabeaid (gyda chyfieithiad Lladin) yn 1590, a thraethawd Barlaam ar y Babaeth, yn 1592.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.