LLOYD, THOMAS (1765 - 1789), gweinidog Undodaidd ac athro coleg

Enw: Thomas Lloyd
Dyddiad geni: 1765
Dyddiad marw: 1789
Rhiant: John Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Undodaidd ac athro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Thomas Oswald Williams

Ganwyd yng Nghoedlannau Fawr, Llanwenog, yn 1765. Mab ydoedd i John, brawd David Lloyd, Brynllefrith. Addysgwyd yn ysgol Davis Castell Hywel, yn academi Caerfyrddin (1782-4, 1785-6) ac, yn 1784-5, yn academi Hoxton. Ym Mawrth 1786 fe'i hapwyntiwyd yn athro yn y clasuron a mesuroniaeth yn yr academi (a gedwid ar y pryd yn Abertawe), a bu yno hyd ei farw. Undodwr oedd, o ysgol Priestley. Bu farw yn 24 mlwydd oed, a chladdwyd ym mynwent eglwys Llanwenog, 25 Ebrill 1789.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.