LLOYD, Syr WALTER (1580 - 1662?) Llanfair Clydogau, Sir Aberteifi, Brenhinwr

Enw: Walter Lloyd
Dyddiad geni: 1580
Dyddiad marw: 1662?
Priod: Bridget Lloyd (née Pryse)
Rhiant: John Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Brenhinwr
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Herbert John Lloyd-Johnes

Mab John Lloyd, siryf sir Aberteifi (1602). Cafodd ei addysg yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen. Merch Thomas Pryse, Glanffrêd, Sir Aberteifi, oedd ei wraig. Bu'n siryf Sir Aberteifi yn 1621. Fe'i dewiswyd yn aelod seneddol dros sir Aberteifi yn 1640, a rhoes ei bleidlais yn erbyn cosbi Strafford. Yn 1644 cymerwyd ei sedd oddi arno gan y Senedd am iddo esgeuluso dyfod i'r tŷ eithr mynd yn hytrach i bencadlys y brenin a glynu wrth blaid hwnnw ('for deserting the Service of the House, being in the King's quarters and adhering to that party'). Fe'i dewiswyd yn gomisiynwr gwŷr ac offer rhyfel dros Siarl I yn 1642 a gwnaethpwyd ef yn farchog yn 1643. Cafodd ei ddirwyo i'r swm o £1,003 9s. 0c. gan y Senedd yn 1647 a chymerwyd ei stadau oddi arno yn 1651. Cafodd fyw i weld yr Adferiad; tybir iddo farw tua'r flwyddyn 1662. Canodd Mrs. Katherine Phillips ('The Matchless Orinda'), a fu'n byw yn nhref Aberteifi, gân o glod iddo. Fe'i disgrifiwyd gan awdur cyfoes fel hyn: ' a gentleman and a scholar, elegant in his tongue and pen, nobly just in his deportment, naturally fit to manage the affayres of his country.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.